Job 16

Job yn ymateb: Cysurwyr gwael!

1Dyma Job yn ateb:

2“Dw i wedi clywed hyn i gyd o'r blaen;
Dych chi i gyd yn gysurwyr gwael!
3Oes dim diwedd i'r malu awyr yma?
Beth sy'n dy gorddi di fod rhaid i ti gael y gair olaf?
4Gallwn innau siarad â chi yr un fath
petaech chi yn fy lle i.
Gallwn i eich drysu chi â geiriau diddiwedd,
ac ysgwyd fy mhen arnoch chi.
5Ond eich calonogi chi fyddwn i'n wneud;
eich cysuro chi, a lleddfu'r boen.
6Ond alla i ddweud dim i leddfu fy mhoen fy hun;
ac os ydw i'n cadw'n dawel dydy'r boen ddim llai.
7Y ffaith ydy, mae Duw wedi fy llwyr ymlâdd!
Mae e wedi dinistrio fy nheulu.
8Dw i'n crebachu yn ei law –
dw i'n ddim ond croen ac esgyrn
ac mae hynny'n tystio yn fy erbyn i.
9Mae e'n ddig, ac wedi fy rhwygo'n ddarnau;
ac mae'n ysgyrnygu ei ddannedd arna i.
Mae'n rhythu fel gelyn,
10ac mae pobl yn chwerthin
ac yn gwneud sbort ar fy mhen.
Maen nhw'n rhoi slap sarhaus i mi,
ac yn uno gyda'i gilydd yn fy erbyn.
11Mae Duw wedi fy ngadael i'r annuwiol,
ac wedi fy nhaflu i ddwylo dynion drwg.
12Roedd bywyd yn ddibryder, ond chwalodd y cwbl;
gafaelodd yn fy ngwar a'm malu'n ddarnau mân.
Mae wedi fy newis fel targed,
13ac mae ei saethwyr o'm cwmpas.
Mae wedi trywanu fy mherfedd yn ddidrugaredd,
ac mae fy ngwaed
16:13 fy ngwaed Hebraeg, “bustl”
wedi ei dywallt ar lawr.
14Dw i fel wal mae'n torri trwyddi dro ar ôl tro,
ac mae e'n rhuthro yn fy erbyn fel rhyfelwr.
15Mae sachliain yn sownd i'm croen;
a chladdwyd pob nerth oedd gen i yn y llwch.
16Ar ôl wylo'n chwerw mae fy wyneb yn goch,
ac mae cysgodion tywyll dan fy llygaid.
17Ond dw i ddim wedi gwneud niwed i neb,
ac mae fy ngweddïau'n ddidwyll.
18Ddaear, paid gorchuddio fy ngwaed!
Paid gadael i'm protest fynd o'r golwg!
19Hyd yn oed nawr, mae gen i dyst yn y nefoedd;
mae Un all sefyll gyda mi yn yr uchelder!
20Ond mae fy ffrindiau'n fy nirmygu,
tra dw i'n wylo dagrau o flaen Duw.
21O na fyddai e'n dadlau achos creadur meidrol,
fel rhywun yn amddiffyn ei ffrind.
22Does gen i ddim llawer o flynyddoedd i fynd
cyn y bydda i'n cerdded y llwybr di-droi-nôl.
Copyright information for CYM